(Go: >> BACK << -|- >> HOME <<)

Neidio i'r cynnwys

Coeden

Oddi ar Wicipedia
Coeden

Planhigyn mawr lluosflwydd prennaidd yw coeden. Er nad oes diffiniad caeth yn nhermau maint, mae'r term yn cyfeirio fel arfer at blanhigion sydd o leiaf 6 medr (20 tr.) o uchder pan yn aeddfed. Yn bwysicach, mae fel arfer gan goeden ganghennau eilaidd â gynhelir gan un prif cyff neu foncyff. O'u cymharu â phlanhigion eraill, mae gan goed fywydau hir. Mae rhai rhywogaethau o goed yn tyfu hyd at 100 medr o uchder, tra bod eraill yn gallu goroesi am filoedd o flynyddoedd.

Mae coed yn elfen bwysig o bob math o dirwedd naturiol. Wrth blannu coed, mae dyn yn gallu llunio'i dirwedd, ac yn amaethyddol fe all gynhyrchu cnydau'r berllan, afalau er enghraifft. Mae rôl bwysig gan goed mewn llawer o chwedlau'r byd.

Conwydd[golygu | golygu cod]

Coed llydanddail[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am goeden. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am coeden
yn Wiciadur.