Nansi Richards

Oddi ar Wicipedia
Nansi Richards
Ganwyd14 Mai 1888 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont-fawr Edit this on Wikidata
Bu farw21 Rhagfyr 1979 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethtelynor Edit this on Wikidata

Telynores Gymreig oedd Nansi Richards a adnabyddid hefyd fel Telynores Maldwyn (14 Mai 188824 Rhagfyr 1979). Ganwyd ar Fferm Penybont, Penybontfawr. Bu farw yn 1979, a chafodd ei chladdu, efo'i gŵr, Cecil Jones, yn eglwys Pennant Melangell[1]. Dywedodd mai'r dylanwadau mwyaf arni hi oedd ei thad, teulu Abram Wood (sipsiwn a arhosodd ar eu fferm) a Tom Lloyd (Telynor Ceiriog) a ddysgodd Nansi i ganu'r delyn. Penodwyd hi'n delynores swyddogol i'r Tywysog Siarl.[2]

Bu'n fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith yn olynol, y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangollen 1908.

Aeth i Goleg y Guildhall yn Llundain am flwyddyn cyn iddi adael i deithio'r neuaddau cerdd efo digrifwraig, 'Happy' Fanny Fields.[3] Derbynnodd sawl gwahoddiad yn ddiweddarach i chwarae o flaen Teulu Brenhinol y Deyrnas Unedig. Bu'n gweithio ar ffilmiau Emlyn Williams The Last Days of Dolwyn a Fruitful Years. Yn ystod ei gyrfa, gweithiodd yn aml yn yr Unol Daleithiau: ym 1923 a eto yn Efrog Newydd ym 1973. Roedd hi'n gyfaill i William Kellogg, perchennog y cwmni sy'n cynhyrchu Creision ŷd, a honir mai hi awgrymodd wrtho ddefnyddio ceiliog ar y paced.

Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd teithiodd hyd a lled gwledydd Prydain gydag ENSA i ddiddori'r milwyr a chymerodd ran mewn dros 2,000 o gyngherddau gyda Chôr Telyn Eryri o 1930 ymlaen. Perfformiodd droeon o flaen Teulu Brenhinol Lloegr a chafodd yr hawl gan George V i arddel y teitl "y Delynores Frenhinol", ond dewis peidio a wnaeth. Derbyniodd MBE ym 1973 am ei chyfraniad i gerddoriaeth Cymru. Ym 1977 cafodd radd Doethur er Anrhydedd mewn cerddoriaeth gan Brifysgol Cymru.

Cyhoeddwyd cyfrol o'i hatgofion,Cwpwrdd Nansi, ym 1973, a chyfrol arall ychydig wedyn. Ymhlith y bobl y dylanwadodd arnynt mae Gwyndaf a Dafydd Roberts (Ar Lôg).

Ysgoloriaeth Nansi Richards[golygu | golygu cod]

Mae Ymddiriodolaeth Nansi Richards yn cynnig Ysgoloriaeth blynyddol i delynorion o dan 25 oed sy'n byw yng Nghymru neu â anwyd yng Nghymru. Mae Catrin Finch a Gwenan Gibbard ymhlith enillwyr yr ysgoloriaeth.[4]

Recordiadau[golygu | golygu cod]

Nansi Richards, Brenhines y Delyn[golygu | golygu cod]

SAIN SCD 2383 (2003)

  • Pwt ar y bys
  • Morfa'r Frenhines
  • Pant Corlan yr Wyn
  • Pibddawns Gwŷr Wrecsam
  • Morfa Rhuddlan
  • Dŵr Glân
  • Pen Rhaw
  • Llydaw
  • Mathafarn
  • Ffidl Ffadl
  • Cainc Dona
  • Pibddawns Rhif Wyth
  • Cwrw Melyn
  • Fairy Dance – rîl Gwyddelig
  • Melfyn
  • Wyres Megan
  • Moel yr Wyddfa
  • Codiad yr Ehedydd
  • Gwenynen Gwent
  • Cainc Iona
  • Gorhoffedd Gwŷr Harlech
  • Cainc Ifan Ddall
  • Llwyn Onn
  • Rhyd Ddu
  • Cainc William Nantgoch
  • Caerhun
  • Y Ferch o'r Sger
  • Clychau Aberdyfi
  • Cainc Dafydd Borffwyd
  • Erddygan Caer Waun
  • Sir Watkin's March
  • Cader Idris
  • Pibddawns Abertawe
  • Napoleon Crossing the Alps
  • Polca Saforella
  • Polca Llewelyn Alaw
  • Beibl Mam
  • Castell Rhuthun
  • Pibddawns y Sipsi
  • Costa's Wedding
  • Nes atat ti
  • Bugeilio'r Gwenith Gwyn
  • Y Gaeaf
  • Pwt ar y bys

Folktrax FTX-351 (caset)[golygu | golygu cod]

  • Gorhoffedd Gwŷr Harlech (a sgwrs)
  • The Roberts Breakdown (a sgwrs)
  • Pibddawns y Sipsi (efo amrywiadau a sgwrs)
  • Pibddawns y Sipsi (efo clocsio gan Hywel Wood)
  • Pibddawns Gwŷr Wrecsam (a sgwrs am David Wood)
  • Pibddawns Rhif Un (efo amrywiadau a sgwrs)
  • Nos Galan
  • Fairy Dance
  • Moel Yr Wyddfa
  • Ymdeith Napoleon / Y Tafarn yn y Dref
  • Codiad yr Hedydd (efo amrywiadau)
  • Pibddawns Rhif Wyth
  • Llwyd Onn
  • Pibddawns Rhif Dau (efo amrywiadau)
  • Clychau Aberdyfi (efo amrywiadau)
  • Pant Corlan yr Wyn (efo amrywiadau)
  • Clêr Sisiliaidd (efo amrywiadau)
  • Ymdeith y Frenhines
  • Galliard(Trabaci)
  • Bale
  • Miniwet Cownt Sax (Parry) (efo amrywiadau)
  • Aria (Parry)
  • Ymdeith Rhuddlan
  • Caer Waen
  • Cainc Dafydd Broffwyd
  • Castell Rhuthun
  • Morfa'r Frenhines

Recordwyd a Golygwyd gan Peter Kennedy

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cwrs Canolradd gan Eirian Conlon ac Emyr Davies, cyhoeddwyd gan CBAC; tudalen 82
  2. Gwefan Last fm
  3. Gwefan Folktrax
  4. "Gwefan Ymddiriodolaeth Nansi Richards". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-04. Cyrchwyd 2012-12-07.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.