Aled Roberts
Aled Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mai 1962 Rhosllannerchrugog |
Bu farw | 13 Chwefror 2022 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, Comisiynydd y Gymraeg, cyfreithiwr |
Swydd | Aelodau 4ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
Plaid Wleidyddol | y Democratiaid Rhyddfrydol |
Gwleidydd a chyfreithiwr o Gymru oedd Aled Roberts (17 Mai 1962 – 13 Chwefror 2022). Roedd yn aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol. Cafodd ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Wrecsam yn 1991, cyn cael ei wneud yn faer y fwrdeistref yn 2003, ac yna arweinydd y cyngor yn 2005.[1] Roedd yn Aelod o'r Cynulliad dros Ranbarth Gogledd Cymru rhwng 6 Mai 2011 a 6 Mai 2016. Roedd hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ar ddatblygu cynlluniau addysg Gymraeg. Fe'i benodwyd yn Gomisiynydd y Gymraeg yn 2019.
Comisiynydd y Gymraeg[golygu | golygu cod]
Ar 1 Ebrill 2019, fe'i penodwyd yn Gomisiynydd y Gymraeg, gan ddilyn Meri Huws. Treuliodd y tri mis cyntaf yn dod i adnabod anghenion Cymry ledled y wlad, er mwyn deall eu profiadau o ddefnyddio'r Gymraeg ac i ddeall beth sy'n cymell pobl sy'n medru siarad Cymraeg i ddefnyddio'r iaith, neu beidio gwneud hynny, yn eu bywydau bob dydd.
“ | Fe ges i fy magu ar aelwyd Gymraeg ei hiaith yn Rhos; ond Saesneg oedd iaith fy addysg. Er bod fy nghriw ffrindiau yn gallu siarad Cymraeg, Saesneg oedden ni'n ei siarad efo'n gilydd. Nid tan imi ddod adref am y Nadolig ar ôl treulio tymor cyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth y sylwais ein bod ni'n colli allan ar gymaint drwy beidio â siarad Cymraeg efo'n gilydd; ac felly mi wnaethon ni benderfyniad un noson i droi i siarad Cymraeg efo'n gilydd o hynny ymlaen. Doedd hi ddim yn hawdd newid, ac mi gymerodd ychydig fisoedd i ni ddod i arfer; ond mi oedd hi'n bosib, a Chymraeg ydyn ni wedi ei siarad efo'n gilydd byth wedyn.[2] | ” |
Bywyd personol a marwolaeth[golygu | golygu cod]
Magwyd Aled yn Rhosllannerchrugog ac roedd yn byw yno gyda'i wraig a'i ddau fab. Mynychodd Ysgol y Ponciau, Ysgol y Grango ac Ysgol Rhiwabon cyn astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd yn cymryd rhan weithgar yn ei gymuned, gan fod yn ysgrifennydd Capel Ebeneser a'r Stiwt.[3]
Bu farw ar 13 Chwefror 2022 yn 59 mlwydd oed ar ôl salwch byr.[4] Cafodd teyrngedau iddo ar draws llawr y Senedd, gan Gymdeithas yr iaith, ei gydweithwyr a'i ffrindiau.[5]
Gwaddol[golygu | golygu cod]
Yn dilyn marwolaeth Aled Roberts o ganser yn 2022, bu i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol ac elusen Macmillan dderbyn nawdd er cof amdano i greu pecyn o adnoddau Dysgu Cymraeg. Ar 14 Mai 2024 cyhoeddodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan, bod y Gronfa gwerth £28,000 wedi ei sefydlu yn enw Aled Roberts er mwyn hybu gofal diwedd oes yn Gymraeg.[6]
Pecyn Iaith Aled Roberts[golygu | golygu cod]
Bydd y pecyn yn cynnwys cwrs hunan-astudio byr, sy’n cyflwyno geiriau ac ymadroddion addas i weithwyr gofal lliniarol a gofal diwedd oes, a chwrs preswyl Dysgu Cymraeg er mwyn codi hyder staff.
Galluogodd y gronfa i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg greu pecyn Dysgu Cymraeg, wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer gweithwyr gofal lliniarol a gofal diwedd oes, fel y gallan nhw gynnig geiriau o gysur i gleifion a’u teuluoedd ar amser anodd.
Bydd hefyd yn cynnig cwrs codi hyder preswyl, blynyddol yn Nant Gwrtheyrn wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer y maes gofal lliniarol a gofal diwedd oes.[7]
Tlws Coffa Aled Roberts[golygu | golygu cod]
Yn dilyn marwolaeth cynamserol Aled, sefydlwyd Tlws Coffa Aled Roberts i gydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol nodedig i’r sector Dysgu Cymraeg. Enillydd cyntaf y Tlws oedd Gwilym Roberts o Gaerdydd am ei waith yn dysgu Cymraeg yn y brifddinas a thu hwnts ers degawdau.[7][8]
Dolenni[golygu | golygu cod]
- Aled Roberts tudalen Aled ar wefan Senedd Cymru
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Comisiynydd y Gymraeg Aled Roberts wedi marw yn 59 oed , BBC Cymru Fyw, 14 Chwefror 2022.
- ↑ comisiynyddygymraeg.cymru; gwefan Llywodraeth Cymru; Archifwyd 2019-05-18 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 16 Mai 2019.
- ↑ http://www.aledroberts.org.uk/?page_id=1288 Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. Gwefan swyddogol Aled Roberts
- ↑ "Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, wedi marw yn 59 oed". Golwg360. 2022-02-14. Cyrchwyd 2022-02-14.
- ↑ "Teyrngedau i Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg a "rhyddfrydwr ymroddedig"". Golwg360. 2022-02-14. Cyrchwyd 2022-02-14.
- ↑ "Mae cronfa gwerth £28,000 wedi ei sefydlu yn enw y diweddar Aled Roberts, cyn gomisiynydd y Gymraeg. Nod y gronfa yw hybu gofal diwedd oes yn Gymraeg". BBC Radio Cymru. 14 Mai 2024.
- ↑ 7.0 7.1 "Cronfa goffa Aled Roberts". Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 14 Mai 2024.
- ↑ "Gwilym Roberts o Gaerdydd yn ennill Tlws Coffa Aled Roberts". Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 14 Mai 2024.