(Go: >> BACK << -|- >> HOME <<)

Neidio i'r cynnwys

Diffyg ar yr haul

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:50, 4 Mehefin 2012 gan AvicBot (sgwrs | cyfraniadau)
Datblygiad diffyg llwyr ar yr haul 1 Awst 2008, fel y'i gwelwyd o Novosibirsk, Rwsia (llun cyfansawdd)

Ffenomen a achosir gan y lleuad yn gorwedd rhwng y Ddaear a'r haul gan beri i'r olaf gael ei orchuddio dros dro, o safbwynt gwyliwr ar y Ddaear, yw diffyg ar yr haul. Gall diffygion ar yr haul fod yn ddiffygion llwyr neu rannol ; yr olaf sydd fwyaf cyffredin.

Mae diffyg llawn yn peri i'r awyr dywyllu'n sylweddol iawn, ffenomen a achosai ofn ym meddwl pobl yn y gorffennol, cyn cael esboniad gwyddonol am y digwyddiad. Credai rhai pobloedd hynafol fod yr haul yn cael ei lyncu gan fod goruwchnaturiol, er enghraifft, a byddai pobl yn gweddio neu'n aberthu i gael yr haul yn ôl. Roedd y gallu i ragweld diffygion ar yr haul, trwy gadw cofnodion seryddol, yn rhoi grym arbennig i offeiriad ac yn eu plith, fe ymddengys, derwyddon y Celtiaid.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.