Diffyg ar y lleuad
`5 Ebrill 2014 |
8 Hydref 2014 |
Pan fo'r Lleuad yn union y tu ôl i'r Ddaear, mae'r Ddaear yn atal golau'r Haul rhag ei chyrraedd ac felly ceir cysgod drosti; gelwir hyn yn ddiffyg ar y Lleuad neu ddiffyg ar y Lloer.[1][2] Ceir dau fath o ddiffyg: llawn a rhannol.
Dim ond pan fo'r Haul, y Ddaear a'r Lleuad mewn llinell syth y ceir diffyg llawn a dim ond pan fo'r lleuad yn llawn y gall hyn ddigwydd. Ceir hefyd diffyg rhannol ar y lleuad.
Yn wahanol i ddiffyg ar yr Haul, a ellir ei weld yn unig o un rhan daearyddol o'r Ddaear, gellir gweld diffyg ar y lleuad o unryw ran o'r Ddaear sydd mewn nos. Gwahaniaeth arall yw fod diffyg ar y Lleuad yn para am oriau, eithr nid yw diffyg ar yr Haul yn para mwy nag ychydig funudau. Y rheswm dros hyn yw fod cysgod y Lleuad yn llawer iawn llai. Yn ogystal â hyn mae'n gwbwl ddiogel edrych ar ddiffyg ar y Lleuad heb unrhyw ffiltrau, rhag y pelydrau sy'n niweidiol i'r llygaid.
Bydd y diffyg llawn nesaf, a fydd i'w weld o Ewrop, ar 16 Medi 2016 ac yna 11 Chwefror 2017. Yn flynyddol ceir rhwng dau a phum diffyg rhannol ar y lleuad.
Lleoliadau
Chwedloniaeth
Mae sawl diwylliant, dros y canrifoedd, wedi gweld tebygrwydd rhwng y cysgod yn symud dros y Lleuad ag anifail yn ei bwyta. Yn yr Hen Aifft, hwch oedd yr anifail ac yn ôl traddodiad y Maya, jagiwar ydoedd. Yn nhraddodiad Tsieina, llyffant teircoes oedd yn bwyta'r lloer a'r diafol mewn diwylliannau eraill a ellid ei erlid drwy daflu cerrig a rhegfeydd ato.[3]
Ym Mecsico, credent bod diffyg yr Haul a'r Lleuad yn digwydd pan oedd yr Haul a’r Lleuad yn cweryla; ar y llaw arall, credai pobl Tahiti mai syrthio mewn cariad oedd yr Haul a’r Lleuad ar yr adegau yma.
Gweler hefyd
- Diffyg modrwyol - annular eclips - pan fo'r Lleuad bellaf o'r Ddaear
- Cil y Lleuad - chwarter olaf, pan ei bod yn fain fel gewin bys.
Cyfeiriadau
- ↑ ar y lleuad Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd 27 Mawrth 2015
- ↑ Llyfrau Gwgl; adalwyd 27 Mawrth
- ↑ Littmann, Mark; Espenak, Fred; Willcox, Ken (2008). "Pennod 4: Eclipses in Mythology". Totality Eclipses of the Sun (arg. 3rd). Efrog Newydd: Oxford University Press. ISBN 978-0-19-953209-4. Cyrchwyd 17 Rhagfyr 2014.