(Go: >> BACK << -|- >> HOME <<)

Neidio i'r cynnwys

Diffyg ar y lleuad

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:05, 27 Mawrth 2015 gan Llywelyn2000 (sgwrs | cyfraniadau)
Diffygion llawn ar y lleuad diweddar

`5 Ebrill 2014

8 Hydref 2014

Pan fo'r Lleuad yn union y tu ôl i'r Ddaear, mae'r Ddaear yn atal golau'r Haul rhag ei chyrraedd ac felly ceir cysgod drosti; gelwir hyn yn ddiffyg ar y Lleuad neu ddiffyg ar y Lloer.[1]

Dim ond pan fo'r Haul, y Ddaear a'r Lleuad mewn llinell syth mae hyn y ceir diffyg llawn a dim ond pan fo'r lleuad yn llawn y gall hyn ddigwydd. Ceir hefyd diffyg rhannol ar y lleuad.

Yn wahanol i ddiffyg ar yr Haul, a ellir ei weld yn unig o ran o'r Ddaear, gellir gweld diffyg ar y lleuad o unryw ran o'r Ddaear sydd mewn nos. Gwahaniaeth arall yw fod diffyg ar y Lleuad yn para am oriau, eithr nid yw diffyg ar yr Haul yn para mwy nag ychydig funudau. Y rheswm dros hyn yw fod cysgod y Lleuad yn llawer iawn llai. Yn ogystal â hyn mae'n gwbwl saff edrych ar ddiffyg ar y Lleuad heb unrhyw ffitrau, rhag y pelydrau niweidiol.

Bydd y diffyg llawn nesaf, a fydd i'w weld o Ewrop, ar 16 Medi 2016 ac yna 11 Chwefror 2017. Yn flynyddol ceir rhwng dau a phum diffyg rhannol ar y lleuad.

Lleoliadau

Yn lleoliad 1 a 4 mae diffyg ar y Lloer yn bosibl. Yn lleoliad 2 a 3 mae diffyg ar yr Haul yn bosibl.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau