(Go: >> BACK << -|- >> HOME <<)

Neidio i'r cynnwys

cael

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /kaːɨ̯l/
    • ar lafar: /kaːl/
  • yn y De: /kai̯l/
    • ar lafar: /kaːl/
  •  cael    (cymorth, ffeil)

Geirdarddiad

Ffurf ryngdorrol ar caffel o'r Cymraeg Canol caffael, berfenw'r Gelteg *kab-ei-, addasiad y gwreiddyn Indo-Ewropeg *kh₂pi- a welir hefyd yn y Lladin capere ‘dal, cipio’, yr Almaeneg haben ‘bod gan/gyda’ a'r Albaneg kap ‘gafael’. Cymharer â'r Gernyweg kavos a'r Llydaweg kavout.

Berfenw

cael berf anghyflawn, afreolaidd

  1. Meddiannu, cymryd meddiant o, dod i feddiant, perchnogi.
  2. Derbyn.
    Roeddwn i wedi cael anrheg hyfryd wrth fy ffrind.
  3. Dod o hyd i, darganfod, dod ar draws, taro ar.
  4. Cymryd sylwedd penodol (yn enwedig bwyd neu ddiod) neu weithred.
    Rydw i'n cael grawnfwyd i frecwast bob bore.
    Alla i gael cipolwg ar y papur newydd os gwelwch yn dda?
    Rydw i'n mynd i gael bwyd Indiaidd i swper.
  5. Cyflawni cyfathrach rywiol gyda rhywun, cenhedlu, beichiogi, peri geni.
    Mae e wastad yn ymffrostio ynglyn â faint o ferched mae e wedi cael.
  6. Rhoi genedigaeth i.
    Maen nhw wedi cael babi - bachgen bach.
  7. Twyllo, neu chwarae tric ar rywun.
    Rwyt ti wedi llwyddo i'm cael i o'r diwedd!

Amrywiadau

Cyfystyron

Cyfieithiadau

  • Cernyweg: kavos
  • Ffrangeg: obtenir
  • Llydaweg: kaout, kavout
  • Saesneg: 1. get, obtain, acquire; 2. get, receive; 3. find, discover, come by, come across; 4. have, take; 5. procreate, beget, conceive; 6. give birth, bear; 7. trick, get (one over)