(Go: >> BACK << -|- >> HOME <<)

calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 20 Mehefin 2024

Cynnal a Chadw Beiciau i Ddechreuwyr

17:00–19:00 (Am ddim)
Ar gyfer pobl sydd eisiau magu hyder gyda cynnal a thrwsio beics.

Christine James yn cyflwyno rhai o’i cherddi

20:00
CHRISTINE JAMES YN CYFLWYNO RHAI O’I CHERDDI Dewch i wrando ar y cyn-Archdderwydd Christine James yn cyflwyno rhai o’i cherddi nos Iau, 20 Mehefin 2024, am 8.00pm, yng nghapel y Tabernacl, 81 …

Yfory 21 Mehefin 2024

Teithiau Canolfan Mileniwm Cymru

15:00–16:00 (£12)
Dewch am daith gefn llwyfan i gael cipolwg arbennig ar fyd y theatr tu ôl i’r llen.

Helfa Drysor Swtan

17:30 (£10 y car)
Dewch i brofi eich sgiliau datrys problemau a’ch gwybodaeth leol a chael hwyl yn ein helfa drysor 🚘 Cychwyn o Glyn Afon, Rhydwyn, LL65 4EN ac yn gorffen mewn lleoliad gyda golygfa wych!!

Dydd Sadwrn 22 Mehefin 2024

Marchnad Llambed

10:00–13:00 (am ddim!)
Bydd Marchnad Lambed ar maes parcio Canterbury bore Sadwrn hwn 10.00-13.00 – does dim rhaid i dalu am barcio ar y campws dros y benwythnos.

Sketchy Welsh: Dysgu Cymraeg Trwy Gelf

10:30–11:30 (£5 y person)
Sylwch mai dyma’r un gweithdy a gynhaliwyd yn ‘Ar Lafar’, Gŵyl Dysgwyr Cymraeg yn Amgueddfa Wlân Cymru ym mis Ebrill 2024.

Mae gen ti Ddreigiau / You’ve Got Dragons

10:30 (£8 i bawb. Tocyn Teulu: £28 (i 4))
Gan Kathry Cave a Nick MalandAddasiad gan Mannon Steffan Ros“Mae dreigiau’n dod yn union pan nad wyt ti’n eu disgwyl.

Roc y Ddôl

11:00–23:00 (£33.25)
Cerddoraeth Cymraeg gan gantorion a bandiau Cymraeg.

Sketchy Welsh: Dysgu Cymraeg: Mae Hen Wlad Fy Nhadau

13:00–14:00 (£5 y person)
Ymunwch â Sketchy Welsh i ddysgu’r anthem genedlaethol ‘Mae Hen Wlad Fy Nhadau’ trwy sgetsys rhyfedd a chofiadwy, yn ogystal â sut i ddefnyddio’r iaith yn eich sgyrsiau Cymraeg bob dydd.

Gŵyl Talgarreg

14:00 (£3 i Oedolion, £1 i oed Uwchradd, Oed cynradd am ddim)
Carnifal (thema: agored) Mabolgampau Ras Siôn Cwilt Rownderi Lluniaeth a BBQ Yr oll i ddechrau am 2yp ar Gae’r Ysgol, Talgarreg. Dewch yn llu!

Dydd Sul 23 Mehefin 2024

Diwrnod ‘Awyr Agored’ ARFOR – Llwyddo’n Lleol 2050

09:30 (Am ddim)
Ar y 23ain o Fehefin, bydd prosiect ARFOR – Llwyddo’n Lleol 2050 yn cynnal diwrnod wedi ei selio ar y thema ‘Awyr Agored’, yn Llanberis!

Oedfa Deuluaidd Gŵyl yr Eglwys Newydd a Thongwynlais

10:00 (Am ddim)
Bydd Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd yn cynnal oedfa deuluaidd yn rhan o weithgarwch Gŵyl yr Eglwys Newydd a Thongwynlais, fore Sul, 23 Mehefin 2024, am 10.00 o’r gloch yng nghapel y …

Gwasanaeth Dathlu Ambiwlans Sant Ioan

17:00 (£10)
Lluniaeth ysgafn, a gwasanaeth i ddilyn am 6yh gyda’r Gwir Barchedig David Morris a Chôr Corisma. Yr elw tuag at Ambiwlans Sant Ioan.

Dydd Llun 24 Mehefin 2024

Sesiwn Stori

10:30 (Am ddim)
Canu, stori, cymdeithasu, ymlacio a mwynhau! Ymunwch gyda ni yn y sesiwn stori yma yn Llyfrgell Caerfyrddin. Cysylltwch gyda mari@mgsg.cymru i gofrestru neu am wybodaeth pellach.

“Brangwyn Y Gwneuthurwr Printiau” Darlith gan Dr Libby Horner

14:00–16:00 (Am Ddim)
I cyd fynd hefo arddangosfa MEWN PRINT: SYR FRANK BRANGWYN RA (1867 – 1956) bydd cyfres o dair darlith fydd yn rhoi golwg manwl ar fywyd a gwaith  y dyluniwr Frank Brangwyn .

Dydd Mawrth 25 Mehefin 2024

Bore Cymdeithasol (Ioga)

10:00–12:30 (Am ddim)
Bore cymdeithasol lle bydd cyfle i ymuno ar sesiwn ioga mewn cadair gyda Clare rhwng 10:15-11am.

A Museum under a Mountain: The National Gallery’s Wartime Home

17:00 (Am ddim)
Suzanne Bosman, awdur ‘The National Gallery in Wartime’ Mae hanes y chwarel lechi ym Manod, ger Blaenau Ffestiniog, fel cuddfan i baentiadau’r National Gallery yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn weddol …

Gwinllan Llaethliw

17:30–19:00
Dewch i glywed hanes Gwinllan Llaethliw yng nghwmni Siw a Richard Evans Archebwch eich lle drwy e-bost at hazel.thomas@uwtsd.ac.uk neu neges ffôn 07973840285

Dydd Mercher 26 Mehefin 2024

Grymuso gyda’n Gilydd: sesiwn sgiliau hyrwyddo

10:00
Tîm Golwg Creadigol fydd yn cynnig cynghorion a syniadau i’ch helpu i hyrwyddo digwyddiadau a phrosiectau’n effeithiol ar lefel leol a chenedlaethol.

Dylan a Neil yn Pesda

13:30 (Am ddim)
Dewch draw i Glwb Rygbi Bethesda i gael eich diddanu gan Dylan a Neil. Canu gwlad, panad a raffl. Am ddim Croeso cynnes i bawb Am ragor o wybodaeth: Gwenda 07999 453676 gwenda@eryricoop.cymru

DYLAN a NEIL yn Pesda

13:30–15:30 (Am ddim)
🎼 DYLAN a NEIL yn Pesda 🎼 Dylan a Neil Clwb Rygbi Bethesda Dementia Actif Gwynedd Edrach mlaen i bnawn amesing arall efo’r hogia….

Galwch i mewn i ddysgu am Siediau Dynion

15:00 (am ddim)
Mae Men’s Sheds yn ofod cymunedol bywiog sydd dod â dynion ynghyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, dysgu sgiliau newydd neu gael hwyl a sgwrs  Dewch draw i weld beth yw eich barn …

Dydd Iau 27 Mehefin 2024

Sesiwn Stori

13:30 (Am ddim)
Canu, stori, cymdeithasu, ymlacio a mwynhau! Ymunwch gyda ni yn y sesiwn stori yma yn Y Llyfrgell yn Y Gât yn San Clêr. Cysylltwch gyda gwyneth@mgsg.cymru i gofrestru neu am wybodaeth pellach.

Lansiad | Y Cysgod yn y Cof gan Bob Morris

19:00 (Am ddim)
Dewch i ddathlu cyhoeddiad nofel gyntaf Bob Morris, Y Cysgod yn y Cof, ym Mhant Du gyda John Dilwyn Williams yn holi’r awdur. Croeso mawr i bawb!

Dydd Gwener 28 Mehefin 2024

Cyngerdd Ysgol Llanllwni

19:00 (£5)
Cyngerdd Ysgol Gynradd Llanllwni yng nghwmi; Merched Soar a C.FF.I Llanllwni dan arweiniad Owain Davies.

Gŵyl y Felinheli

19:00 hyd at 17:00, 6 Gorffennaf 2024 (Amrywiol)
Mae Gŵyl y Felinheli’n ôl! 9 diwrnod o weithgareddau i’r teulu cyfan ar lannau’r Fenai, yn cynnwys mwy o weithgareddau i blant nag erioed o’r blaen.

Dydd Sadwrn 29 Mehefin 2024

Carnifal Ciliau Aeron

Cystadlaethau gwisg ffansi a chystadlaethau rhedeg, ras wy ar lwy… **Mwy o fanylion i ddilyn.

Dydd Agored Stori Fawr Dre-fach Felindre

11:00 (Am ddim)
(I gofio am gyfraniad y diweddar Olive Campden)   Sadwrn Mehefin 29ain   11yb – 4yp,  yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre Arddangos cynnwys y wefan hanesyddol ar y sgrin Arddangosfa o lyfrau …

PRIDE CAERNARFON 2024

12:00 (Am ddim)
🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Cadwch y dyddiad ac ymunwch â ni ar gyfer BALCHDER Caernarfon 2024! 🏳‍🌈 Yr haf hwn, dathlwch gariad, amrywiaeth, a chymuned gyda gŵyl fywiog!  Bydd yno orymdaith liwgar drwy strydoedd …

Carnifal Llanybydder

13:00
Gorymdaith i ddechrau am 12.30yp o faes parcio Y Llew Du ac i ddechrau yng Nghae Rygbi Llanybydder am 1.00yp. Thema’r gwisgoedd yw Llyfrau.

Diwrnod o Hwyl Padarn

13:00–21:00 (Am ddim)
Gêm bêl-droed arbennig Cwpan Milko rhwng tîm presennol Padarn United ac arwyr y gorffennol. Adloniant, diod, peintio wynebau a llawer mwy……

Cyngerdd Dathlu

19:00
Cyngerdd er cof am Rhian Khardani: 29/6/24, Capel Penuel Llangefni. Mae’n argyhoeddi i fod yn gyngerdd arbennig.