(Go: >> BACK << -|- >> HOME <<)

Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Pwy ydym ni

Y Comisiynydd

Aled Roberts yw Comisiynydd y Gymraeg.
 
Cafodd Aled ei eni a’i fagu yn ardal Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, cyn mynd ymlaen i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
 
Dychwelodd i’w ardal enedigol ar ôl graddio, gan briodi Llinos yn 1993 a magu eu dau fab, Osian ac Ifan, yn yr un ardal.
 
Ar ôl ennill ei gymhwyster proffesiynol, bu Aled yn gweithio fel cyfreithiwr yn ardal Wrecsam, Rhuthun a’r Wyddgrug.
Bu’n cynrychioli ardal Rhos a’r Ponciau ar Gyngor Wrecsam o 1991 tan 2012. Pan gafodd ei ethol yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn 2005, rhoddodd y gorau i’w swydd fel cyfreithiwr. Bu’n arwain y cyngor nes iddo gael ei ethol yn Aelod Cynulliad dros ranbarth gogledd Cymru yn 2011. 
 
Yn y Cynulliad, Aled oedd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Addysg, Plant a Phobl Ifanc a llefarydd y blaid ar y Gymraeg. Collodd ei sedd yn 2016 ac ers hynny bu’n cynnal adolygiad annibynnol o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar ran Llywodraeth Cymru ac yn cadeirio'r Bwrdd fu'n gyfrifol am weithredu argymhellion yr adolygiad hyd at Chwefror 2019.
 
Mae Aled yn weithgar iawn yn ei gymuned, ac yn aelod gweithgar o bwyllgor Canolfan Gymunedol Gelf y Stiwt yn y Rhos ers ei sefydlu yn yr 1980au. Mae hefyd yn aelod o fforwm Anabledd Sir y Fflint ac yn weithgar gyda phrosiect Warws Wrecsam ar gyfer pobl ifanc digartref. Mae’n aelod o ddau gôr yn yr ardal.
 
Dirprwy Gomisiynydd a Chyfarwyddwyr Strategol
Gwenith Price yw’r Dirprwy Gomisiynydd, a hi sy’n dirprwyo i’r Comisiynydd yn ystod cyfnodau gwyliau a salwch ac ar unrhyw adeg arall ar gais arbennig y Comisiynydd. Mae Gwenith Price hefyd yn Gyfarwyddwr Strategol sydd â chyfrifoldeb am y timoedd Cydymffurfio, Ymchwilio a Gorfodi, Cyllid, Adnoddau Dynol a Llywodraethiant.

Cyfarwyddwr Strategol
Dyfan Sion yw'r Cyfarwyddwr Strategol sy’ n gyfrifol am arwain gwaith y timoedd Polisi, Hybu, Isadeiledd ac Ymchwil, Cyfathrebu a Gosod Safonau.
 

Y Comisiynydd a'r ddau Gyfarwyddwr Strategol yw Tîm Rheoli'r sefydliad.

Gweler y dolenni ar y dde i gofrestr buddiannau’r Comisiynydd a’r Cyfarwyddwyr a threuliau’r Comisiynydd.


Swyddogion
Mae dros 40 aelod o staff yn gweithio i’r Comisiynydd, wedi eu lleoli mewn swyddfeydd yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon a Rhuthun.

Am fanylion cyswllt y swyddfeydd, cliciwch yma.
 

Arall

Pwyllgor Archwilio a Risg

Prif nod y pwyllgor hwn yw cynghori’r Swyddog Cyfrifo (sef y Comisiynydd) ar y prosesau strategol ar gyfer risg, rheolaeth a llywodraethiant.
Pwyllgor Archwilio a Risg

Panel Cynghori

Prif bwrpas y Panel Cynghori yw rhoi cyngor i'r Comisiynydd ar unrhyw fater.  Gweinidogion Cymru sydd yn penodi aelodau i'r Panel.
Panel Cynghori

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau