Parthed:
-----Original Message-----
From: A. Hamner <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask] <[log in to unmask]>
Date: 12 June 1998 09:52
Subject: Re: Ding Dong!
> 'Twllu' ? Ydych chi'n ceisio dweud 'tyllu' neu gywasgiad o 'tywyllu?
'Ydych
> chi erioed wedi gweld 'twllu' grwp (cynullawd, lliaws, llu, mintai, lleng,
bagad, crugyn, ciwed, tyaid, sachaid?) o'r blaen?
> Ann Hamner,
>golygyddes
> Y Cyngor
>Gorllewinol
>
Goddefwch i mi esbonio'r gair. 'Twllu' ydy'r ffurf lafar o 'tywyllu'. Yn aml
clywir son am bob sydd / sydd ddim yn 'twllu'r capal neu'r dafarn'.
Gobeithio, Ann, fod hyn yn eich goleuo ychydig.
Grwp 'rhydd', gan na chodir tal am fynediad iddo, nid oherwydd hoywder neu
ddiffyg hoywder y grwp. Cyfalafiaeth ydy gelyn pena'r Gymraeg. Ein hymwneud
bythol a'r materol a'r mawr. Gogoniant meddalwedd a'r rhyngrwyd yn ei
blentyndod oedd yr ysbryd rhydd di-arian, hipiaidd, cariadus hwn - cyn i'r
hysbysebu di-ben-draw ei lethu a'i fonopoleiddio hyd syrffed.
Mae'r gyfrol Rebel ar y We gyda llaw yn dal ar gael am ddim: chwiliwch
feinwe 'Sycharth' - does na run hysbyseb yn twllu ei dalenau digidol.
Cofion serchus iawn
Bardd y We
("Un Daear, un Duw ac un 'n'")
|