Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru)
Mesur Arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth
Diben y Mesur Arfaethedig
Bwriedir i Fesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) foderneiddio'r fframwaith cyfreithiol cyfredol sy'n cael ei lywodraethu'n bennaf gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ynghylch defnyddio'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
Cyfnod presennol y Mesur
Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion 7 Rhagfyr 2010. Gellir cael esboniad o beth sy'n digwydd ym mhob cyfnod yn yr Arweiniad i Fesurau.
Cofnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyfnod |
Dyddiad |
Cyflwyno’r Mesur Arfaethedig |
4 Mawrth 2010 |
Cyfnod 1 – Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol* |
10, 17, 25 Mawrth 2010 (Cyfarfod preifat) 22, 29 Ebrill 2010 13, 20, 27 Mai 2010 10, 17, 24 Mehefin 2010 (Cyfarfod preifat) 1, 8, 15 Gorffennaf 2010 (Cyfarfodydd preifat) |
Cyfnod 1 – Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol |
21 Medi 2010 |
Cyfnod 2 – Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau * |
14, 21 Hydref 2010 |
Cyfnod 3 – Y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau |
7 Rhagfyr 2010 |
Cyfnod 4 – Pasio’r Mesur yn y Cyfarfod Llawn |
7 Rhagfyr 2010 |
Dyddiad Cymeradwyaeth Frenhinol |
|
* Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2
Gwybodaeth berthnasol
Cewch ragor o wybodaeth am y Mesur hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.
Y Mesur Arfaethedig a'r Memorandwm Esboniadol
Cyfnod 3
Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl:
Dechreuodd Cyfnod 3 ar 22 Hydref 2010. a ddaeth I ben ar 7 Rhagfyr 2010. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn: Gwelliannau Cyfnod 3.
Cyfnod 4
Pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig:
Cafodd y Mesur ei basio gan y Cynulliad yn ystod y trafodion 7 Rhagfyr 2010.