Categoreiddio delweddau ar y Comin.
11 Awst 2014 Gadael sylw
Dwi’n ddiolchgar iawn* i’r ffotograffydd Iestyn Hughes am gynnig rhai lluniau a dynnodd yn ystod Ras yr Iaith 2014 ar drwydded agored fel y gellir eu defnyddio ar erthygl Wicipedia am y Ras yr Iaith.
Testun sgwrs fer a roddais yn ystod Hacio’r Iaith eleni oedd ar bwysigrwydd categoreiddio erthyglau Wicipedia fel y daw cymaint o bobl ar eu traws a phosib, ac mae’r un peth yn wir am ddelweddau, ffeiliau sain a fideos sydd ar y Comin.
Ar ôl llwytho lluniau Iestyn o’r Ras i’r Comin, roedd angen eu categoreiddio. Roedd hyn yn dasg syml – ro’n i’n gosod bob un yng nghategori’r dref yr oedd y ras yn rhedeg drwyddi a chategori newydd Ras yr Iaith 2014.
Wrth greu categori newydd, rhaid wedyn gosod hwnnw yn ei fam gategori (neu falle creu’r fam gategori hefyd). Dyma esiamplau.
Ras yr Iaith 2014 > Ras yr Iaith > Atheltics in Wales > Athletics in the United Kingdom ….ayyb
Ras yr Iaith 2014 > 2014 in Wales > Wales by Year ….ayyb
Mantais cael lluniau ar y Comin ar drwydded CC-BY-SA yw y gallwch eu haddasu, felly tociais y llun hwn gan Iestyn i greu’r llun canlynol a’i osod ar erthygl Wicipedia am fudiad Merched y Wawr.
Mae’r llun hwn yn rhoi tipyn mwy o sgôp ar gyfer categoreiddio, a des i fyny gyda’r canlynol:
- Ras yr Iaith 2014
- Merched y Wawr
- Tregaron
- Welsh language signs
- People with banners
- Banners in Wales
- Pubs in Ceredigion
- Welsh language banners
Allwch chi feddwl am fwy o gategorïau addas?
Os oes gennych funud neu ddau fan hyn fan draw i sbario, beth am wneud bach o gategoreiddio ar y Comin – e.e. beth am osod gategoreiddio Capeli Cymru yn ôl sir. Bues i wrthi’n casglu lluniau capeli Cymraeg o du allan i Gymru i un categori pwrpasol – hoffwn wybod os oes mwy i gael.
Os am weld detholiad o gategorïau obscure, dwi’n argymell CommonsCat ar Tumblr.
*Tra dwi wrthi, dyma gyfle i ddiolch i Llinos Lanini, sydd wedi caniatau i llawer o’u lluniau gael eu llwytho, o artistiad yng Ngŵyl Tegeingl yn bennaf**. Tra mae digonedd o luniau rhydd ar gael o dirlun ac adeiladau hardd ac adnabyddus Cymru, does dim llawer luniau o ddigywddiadau ac unigolion sy’n rhan o ddiwylliant Cymraeg a Chymreig, felly mae lluniau Iestyn a Llinos yn werthfawr iawn.
**Am ryw reswm mae’r rhain wedi cael eu gosod yn syth ar y Wicipedia, ac er bod hawl eu hailddefnyddio ar y wicis eraill, bydd rhaid eu hallforio at y Comin yn gyntaf i hyn allu digwydd.